Os ydych chi'n ystyried prynu cyfarpar i'ch helpu i gadw’n ddiogel ac yn annibynnol neu os ydych chi’n gwneud addasiadau gartref, gallai safleoedd Dewis ac InfoEngine eich helpu i ddod o hyd i fanwerthwyr a sefydliadau yn eich ardal. 

Mae'r gwefannau hyn yn cwmpasu ystod eang o bethau. 

Gallech roi cynnig ar eiriau ac ymadroddion fel a ganlyn yn eich chwiliad: Cyfarpar; Offer; Cymhorthion i Fyw Bob Dydd; Addasiadau; Teleofal; Cadair olwyn.


Gwefan Dewis Cymru - Cliciwch yma i ymweld â'r safle  

Darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig.
Nid yw Cyngor Sir Powys a Millbrook Healthcare yn argymell nac yn cymeradwyo darparwyr neu sefydliadau y dewch o hyd iddynt drwy’r dolenni hyn.

Mae Millbrook Healthcare hefyd yn gwerthu cyfarpar i'r cyhoedd yn eu siop ar-lein.

Mae yna lawer o gyflenwyr eraill o gymhorthion ar gyfer bywyd bob dydd. 

Ystyriwch chwilio am gyflenwyr sy'n aelodau o sefydliadau masnachol lle mae eu haelodau’n ymrwymo I god ymarfer.  

Enghreifftiau o Gymdeithasau Masnachol yw British Healthcare Trades Association (BHTA), Telecare Services Association (TSA), Lift ac Escalator Industry Association (LEIA).

Os penderfynwch brynu cyfarpar, dylech ddarllen y cyfarwyddiadau’n ofalus. 
Am ragor o wybodaeth, gofynnwch am gyngor naill ai gan gyflenwr y cyfarpar neu'r gwneuthurwr.  
Ni fydd Cyngor Sir Powys na Millbrook Healthcare yn gyfrifol am unrhyw gyfarpar y byddwch yn dewis ei brynu.

Dylech ystyried a oes angen asesiad proffesiynol arnoch cyn prynu unrhyw gyfarpar a allai effeithio ar eich: diogelwch cyffredinol; y gallu i alw am gymorth; balans; symudedd; osgo; gofal am friwiau pwyso.